OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2016 Rhif 137 (Cy. 66)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Gofynion Hyfforddi ar gyfer Llywodraethwyr) (Cymru) (Diwygio) 2016
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Gofynion Hyfforddi ar gyfer Llywodraethwyr) (Cymru) 2013 (“Rheoliadau 2013”) yn nodi’r gofynion hyfforddi ar gyfer llywodraethwyr mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru. Mae’r gofynion hyfforddi mewn perthynas â data perfformiad ysgolion wedi eu nodi mewn dogfen o’r enw “Hyfforddiant i lywodraethwyr ysgol yng Nghymru ar ddeall data ysgolion” ac y mae cyfeiriad ati yn y diffiniad o “yr hyfforddiant ar ddata perfformiad ysgolion” (“dogfen 2014”) yn rheoliad 2 o Reoliadau 2013. Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r diffiniad hwnnw er mwyn rhoi yn lle’r cyfeiriad at ddogfen 2014, gyfeiriad at y gofynion hyfforddi newydd ar ddata perfformiad ysgolion a nodir mewn dogfen o’r enw “Hyfforddiant i lywodraethwyr ysgol yng Nghymru ar ddeall data ysgolion” (“dogfen 2016”).
Mae rheoliad 3 yn cynnwys darpariaeth arbed y mae ganddi’r effaith fel na fydd yn ofynnol i lywodraethwyr ysgolion presennol gwblhau’r hyfforddiant yn nogfen 2016 os ydynt eisoes wedi cwblhau’r hyfforddiant sy’n ofynnol gan Reoliadau 2013 cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2016 Rhif 137 (Cy. 66)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Gofynion Hyfforddi ar gyfer Llywodraethwyr) (Cymru) (Diwygio) 2016
Gwnaed 3 Chwefror 2016
Gosodwyd gerbron Cynulliad
Cenedlaethol Cymru 9 Chwefror 2016
Yn dod i rym 1 Mawrth 2016
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau yn adrannau 22(3) a (4) a 32 o Fesur Addysg (Cymru) 2011([1]), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1.—(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion
a Gynhelir (Gofynion Hyfforddi ar gyfer Llywodraethwyr) (Cymru)
(Diwygio) 2016 a deuant i rym ar 1 Mawrth 2016.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Rheoliadau 2013” (“the 2013 Regulations”) yw Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Gofynion Hyfforddi ar gyfer Llywodraethwyr) (Cymru) 2013([2]).
Diwygio Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Gofynion Hyfforddi ar gyfer Llywodraethwyr) (Cymru) 2013
2. Yn rheoliad 2 o Reoliadau 2013 yn y diffiniad o “yr hyfforddiant ar ddata perfformiad ysgolion” (“the school performance data training”), yn lle “mis Awst 2014 o’r enw “Hyfforddiant i lywodraethwyr ysgol yng Nghymru ar ddeall data ysgolion””, rhodder “mis Ionawr 2016 o’r enw “Hyfforddiant i lywodraethwyr ysgol yng Nghymru ar ddeall data ysgolion ([3])””.
Darpariaeth arbed
3. Nid oes dim yn y Rheoliadau hyn yn gymwys i lywodraethwr a gwblhaodd, cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, yr hyfforddiant ar ddata perfformiad ysgolion sy’n ofynnol gan Reoliadau 2013.
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
3 Chwefror 2016